This feed does not validate.
In addition, interoperability with the widest range of feed readers could be improved by implementing the following recommendations.
... 0450402_6977082214890466312_n-32x32.webp</url>
line 34, column 0: (11 occurrences) [help]
<site xmlns="com-wordpress:feed-additions:1">232348737</site> <item>
line 629, column 0: (2 occurrences) [help]
<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><rss version="2.0"
xmlns:media="http://search.yahoo.com/mrss/"
xmlns:content="http://purl.org/rss/1.0/modules/content/"
xmlns:wfw="http://wellformedweb.org/CommentAPI/"
xmlns:dc="http://purl.org/dc/elements/1.1/"
xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
xmlns:sy="http://purl.org/rss/1.0/modules/syndication/"
xmlns:slash="http://purl.org/rss/1.0/modules/slash/"
xmlns:georss="http://www.georss.org/georss"
xmlns:geo="http://www.w3.org/2003/01/geo/wgs84_pos#"
<channel>
<atom:link href="https://newyddionlle.cymru/feed/" rel="self" type="application/rss+xml" />
<link>https://newyddionlle.cymru</link>
<description>a Red Brand Media Publication</description>
<lastBuildDate>Mon, 14 Jul 2025 23:38:55 +0000</lastBuildDate>
<language>cy</language>
<sy:updatePeriod>
hourly </sy:updatePeriod>
<sy:updateFrequency>
1 </sy:updateFrequency>
<generator>https://wordpress.org/?v=6.8.1</generator>
<image>
<url>https://newyddionlle.cymru/wp-content/uploads/2022/08/cropped-107800056_736435130450402_6977082214890466312_n-32x32.webp</url>
<link>https://newyddionlle.cymru</link>
<width>32</width>
<height>32</height>
</image>
<site xmlns="com-wordpress:feed-additions:1">232348737</site> <item>
<link>https://newyddionlle.cymru/2025/07/14/buddsoddiad-o-4-8-miliwn-i-wella-ffyrdd-sir-gaerfyrddin-yr-haf-hwn/</link>
<comments>https://newyddionlle.cymru/2025/07/14/buddsoddiad-o-4-8-miliwn-i-wella-ffyrdd-sir-gaerfyrddin-yr-haf-hwn/#respond</comments>
<dc:creator><![CDATA[cyfrannwr wefan | Web Contributor]]></dc:creator>
<pubDate>Mon, 14 Jul 2025 09:20:59 +0000</pubDate>
<category><![CDATA[Carmarthenshire County Council]]></category>
<category><![CDATA[Travel and Road Information]]></category>
<guid isPermaLink="false">https://newyddionlle.cymru/?p=178521</guid>
<description><![CDATA[Mae buddsoddiad o £4.8 miliwn yn cael ei wneud yr haf hwn i wella cyflwr ffyrdd lleol, ac mae rhaglen waith fawr bellach ar waith. Dechreuodd y rhaglen ail-wynebu ffyrdd ar 1 Gorffennaf a bydd yn targedu tua 50 o ddarnau ffyrdd trefol a gwledig ledled y sir, gyda £3.3 miliwn wedi’i ddyrannu i gyflawni […]]]></description>
<content:encoded><![CDATA[
Mae buddsoddiad o £4.8 miliwn yn cael ei wneud yr haf hwn i wella cyflwr ffyrdd lleol, ac mae rhaglen waith fawr bellach ar waith.
Dechreuodd y rhaglen ail-wynebu ffyrdd ar 1 Gorffennaf a bydd yn targedu tua 50 o ddarnau ffyrdd trefol a gwledig ledled y sir, gyda £3.3 miliwn wedi’i ddyrannu i gyflawni gwelliannau hirdymor i lwybrau allweddol.
Yn ogystal, mae £1.5 miliwn arall wedi’i ymrwymo i waith trin wyneb ataliol – sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘gosod wyneb ffyrdd’ – a fydd yn dechrau ddydd Llun, 7 Gorffennaf. Mae gosod wyneb ffyrdd yn ddull cost-effeithiol ac effeithlon o selio craciau, adfer gafael, ac ymestyn oes ffyrdd. Hefyd mae’r triniaethau hyn yn golygu bod tyllau’n llai tebygol o ddatblygu yn y dyfodol.
Mae £1 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn gwaith hanfodol i gynnal a chadw a gwella pontydd, ochr yn ochr â £400,000 ar gyfer atgyweirio troedffyrdd sydd wedi dirywio, gan helpu i wella diogelwch a hygyrchedd llwybrau cerdded.
Er mwyn lleihau tarfu, bydd arwyddion rhybudd yn cael eu gosod ymlaen llaw ym mhob lleoliad, a bydd manylion llawn am unrhyw drefniadau rheoli traffig – gan gynnwys achosion angenrheidiol o gau ffyrdd – yn cael eu cyhoeddi ar Causeway one.network. Mewn rhai achosion, bydd y gwaith yn cael ei drefnu yn ystod adegau tawel a bydd ffyrdd ar gau fel arfer o 7:00pm.
Bydd mynediad i wasanaethau brys a busnesau lleol yn cael ei gynnal lle bynnag y bo modd.
Y cyngor i yrwyr yw cynllunio ymlaen llaw a chymryd rhagor o ofal wrth deithio ger mannau gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Rydyn ni wrthi’n cyflawni un o’r buddsoddiadau mwyaf sylweddol yn y seilwaith ffyrdd hyd yn hyn. Dim gwneud atgyweiriadau tymor byr yn unig yw diben y rhaglen hon, ond hefyd gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel, cryf a gwydn ar gyfer y dyfodol.
Er na allwn ni drin pob ffordd, bydd y cyfuniad o ail-wynebu a gwaith atal yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Sir Gâr. Hoffwn i ddiolch i’r trigolion i gyd ymlaen llaw am eu hamynedd yn ystod y gwaith hanfodol hwn.”
Mae ein rhaglen ail-wynebu yn dilyn dull seiliedig ar risg sy’n ystyried hierarchaeth y rhwydwaith a maint y traffig wrth flaenoriaethu ein rhaglen derfynol.
]]></content:encoded>
<wfw:commentRss>https://newyddionlle.cymru/2025/07/14/buddsoddiad-o-4-8-miliwn-i-wella-ffyrdd-sir-gaerfyrddin-yr-haf-hwn/feed/</wfw:commentRss>
<slash:comments>0</slash:comments>
<media:content url="https://newyddionlle.cymru/wp-content/uploads/2025/07/resize-1107.png" medium="image"></media:content>
<post-id xmlns="com-wordpress:feed-additions:1">178521</post-id> </item>
<item>
<link>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/awdurdod-y-parc-cenedlaethol-yn-lansio-her-cerdded-y-llwybr-i-lesiant/</link>
<comments>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/awdurdod-y-parc-cenedlaethol-yn-lansio-her-cerdded-y-llwybr-i-lesiant/#respond</comments>
<dc:creator><![CDATA[cyfrannwr wefan | Web Contributor]]></dc:creator>
<pubDate>Thu, 10 Jul 2025 12:32:34 +0000</pubDate>
<category><![CDATA[Pembrokeshire National Park]]></category>
<guid isPermaLink="false">https://newyddionlle.cymru/?p=178515</guid>
<description><![CDATA[Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwahodd ffrindiau, cydweithwyr a grwpiau cymunedol i gymryd rhan mewn her uchelgeisiol i ddathlu Llwybr Arfordir Penfro sy’n 186 milltir o hyd. Mae her Cerdded y Llwybr i Llesiant yn gwahodd pobl o bob cefndir i ddod at ei gilydd ddydd Gwener 12 Medi, i gerdded y Llwybr […]]]></description>
<content:encoded><![CDATA[
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwahodd ffrindiau, cydweithwyr a grwpiau cymunedol i gymryd rhan mewn her uchelgeisiol i ddathlu Llwybr Arfordir Penfro sy’n 186 milltir o hyd.
Mae her Cerdded y Llwybr i Llesiant yn gwahodd pobl o bob cefndir i ddod at ei gilydd ddydd Gwener 12 Medi, i gerdded y Llwybr yn ei gyfanrwydd. Bydd pob grŵp yn cerdded, yn nofio neu’n padlo rhannau gwahanol o’r Llwybr er mwyn cyfrannu at yr her.
Bwriad y digwyddiad yw tynnu sylw at y ffordd y mae Llwybr yr Arfordir yn gallu cefnogi iechyd, llesiant a chysylltiad unigolion â natur, yn ogystal ag uno cymunedau drwy roi targed iddynt ei gyflawni ar y cyd.
Un cais fydd angen i bob tîm ei gyflwyno. Bydd rhan o’r Llwybr yn cael ei ddynodi i bob tîm ar sail eu gallu, a’r bwriad yw cwblhau’r llwybr arfordir i gyd gyda’n gilydd. Rydym ni’n disgwyl i fwyafrif y cyfranogwyr gerdded y Llwybr, ond mae croeso iddynt gwblhau eu hadran nhw drwy badlo, neu nofio, os yw hynny’n addas.
Bydd lleoliadau yn cael eu dynodi i dimau er mwyn sicrhau ein bod yn cwblhau’r Llwybr i gyd, ond mae gan dimau’r rhyddid i drefnu pryd fyddan nhw’n dechrau ar eu taith a pha mor gyflym fyddan nhw’n cerdded.
Yn ôl Angela Robinson, Swyddog Iechyd a Llesiant Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Os ydych chi’n dîm bach o ffrindiau, yn gydweithwyr o weithle lleol neu’n aelodau o grŵp cymunedol, mae’r digwyddiad hwn wedi ei drefnu i fod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl ar eich cyfer. Mae croeso i gyfranogwyr godi arian at elusen o’u dewis, neu fanteisio ar y cyfle i ddathlu harddwch Sir Benfro.”
Bydd staff Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cymryd rhan yn ystod y diwrnod ac maen nhw’n annog timau o bob rhan o’r sir – a’r tu hwnt – i gymryd rhan.
Ychwanegodd Angela Robinson: “Mae Llwybr Arfordir Penfro yn fwy na llwybr yn unig – mae’n uno cymunedau, tirweddau, ac unigolion. Mae Cerdded y Llwybr i Lesiant yn gyfle i ddathlu hynny, ac i atgoffa ein hunain mor lwcus ydym ni o gael rhywle o’r fath ar garreg ein drws.”
Bydd adnodd digidol arbennig ar gael i helpu timau i baratoi at y diwrnod mawr, i gael gwybod am unrhyw beryglon posibl, ac i rannu straeon, lluniau a fideos. I gofrestru ar gyfer her Cerdded y Llwybr i Lesiant, neu i gael rhagor o fanylion, ewch i bit.ly/LlwybrILesiant.
Mae’r digwyddiad yn chwilio am noddwyr. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu ag Angela Robinson: angelar@arfordirpenfro.org.uk.
]]></content:encoded>
<wfw:commentRss>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/awdurdod-y-parc-cenedlaethol-yn-lansio-her-cerdded-y-llwybr-i-lesiant/feed/</wfw:commentRss>
<slash:comments>0</slash:comments>
<media:content url="https://newyddionlle.cymru/wp-content/uploads/2025/07/Walking_the_path_for_Wellbeing_banner.jpg" medium="image"></media:content>
<post-id xmlns="com-wordpress:feed-additions:1">178515</post-id> </item>
<item>
<link>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/cyfle-i-gymunedau-gwledig-cymru-ennill-grant-gwerth-20000-i-sbarduno-newid-2/</link>
<comments>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/cyfle-i-gymunedau-gwledig-cymru-ennill-grant-gwerth-20000-i-sbarduno-newid-2/#respond</comments>
<dc:creator><![CDATA[Emyr Evans]]></dc:creator>
<pubDate>Thu, 10 Jul 2025 12:00:00 +0000</pubDate>
<category><![CDATA[Aberystwyth]]></category>
<category><![CDATA[Aberystwyth University]]></category>
<category><![CDATA[Newyddion Lle]]></category>
<guid isPermaLink="false">https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/cyfle-i-gymunedau-gwledig-cymru-ennill-grant-gwerth-20000-i-sbarduno-newid-2/</guid>
<description><![CDATA[Gwahoddir cymunedau gwledig ledled Cymru i wneud cais am grant newydd gwerth £20,000 i ystyried syniadau a allai helpu i greu dyfodol gwell i’w hardal. Bydd y Grant Ymchwil Gweithredu a Arweinir gan y Gymuned yn ariannu hyd at chwe phrosiect ymchwil ac yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth gan fentor academaidd a chyfleoedd i gysylltu […]]]></description>
<content:encoded><![CDATA[
Gwahoddir cymunedau gwledig ledled Cymru i wneud cais am grant newydd gwerth £20,000 i ystyried syniadau a allai helpu i greu dyfodol gwell i’w hardal.
Bydd y Grant Ymchwil Gweithredu a Arweinir gan y Gymuned yn ariannu hyd at chwe phrosiect ymchwil ac yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth gan fentor academaidd a chyfleoedd i gysylltu â chymunedau ac ymchwilwyr eraill.
Darperir y grant gan Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol (LPIP) Cymru Wledig, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth.
Meddai’r Athro Mike Woods o Brifysgol Aberystwyth, Cyfarwyddwr Cymru Wledig LPIP Rural Wales:
“Diben y rhaglen hon yw rhoi’r adnoddau a’r gefnogaeth i gymunedau gwledig i ymchwilio i’r hyn sy’n bwysicaf iddyn nhw – boed gwella lles, mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, neu gryfhau’r diwylliant lleol – ac i droi’r wybodaeth honno’n gamau gweithredu.”
“Mae hwn yn gyfle i gymunedau gymryd yr awenau wrth lunio eu dyfodol eu hunain, ac rydym yn falch o gefnogi prosiectau sy’n adlewyrchu creadigrwydd, gwytnwch ac uchelgais cymunedau yng nghefn gwlad Cymru.”
Mae’r grant yn agored i gymunedau yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Sir Benfro, Powys a Bro Morgannwg.
Rhaid i brosiectau gydweddu ag o leiaf un o bedair thema allweddol Cymru Wledig LPIP Rural Wales, sef: adeiladu economi adfywiol; cefnogi’r pontio i Sero Net; grymuso cymunedau ar gyfer adferiad diwylliannol; neu wella lles yn ei le.
Mae rhagor o wybodaeth am y Grant Ymchwil Gweithredu a arweinir gan y Gymuned, sydd ar agor am geisiadau tan 29 Awst 2025, ar gael ar wefan Gyda’n Gilydd Dros Newid.
Darperir y gronfa gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), ac Innovate UK fel rhan o Cymru Wledig LPIP Rural Wales, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.
]]></content:encoded>
<wfw:commentRss>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/cyfle-i-gymunedau-gwledig-cymru-ennill-grant-gwerth-20000-i-sbarduno-newid-2/feed/</wfw:commentRss>
<slash:comments>0</slash:comments>
<media:content url="https://newyddionlle.cymru/wp-content/uploads/2022/08/cropped-107800056_736435130450402_6977082214890466312_n-removebg-preview.png" medium="image"></media:content>
<post-id xmlns="com-wordpress:feed-additions:1">178516</post-id> </item>
<item>
<link>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/ab-plant-tool-hire-yn-codi-arian-yn-ysod-y-sioe-frenhinol-er-budd-y-gwasanaeth-gofal-lliniarol-2/</link>
<comments>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/ab-plant-tool-hire-yn-codi-arian-yn-ysod-y-sioe-frenhinol-er-budd-y-gwasanaeth-gofal-lliniarol-2/#respond</comments>
<dc:creator><![CDATA[cyfrannwr wefan | Web Contributor]]></dc:creator>
<pubDate>Thu, 10 Jul 2025 11:26:12 +0000</pubDate>
<category><![CDATA[Hywel Dda Health Charities]]></category>
<guid isPermaLink="false">https://newyddionlle.cymru/?p=178512</guid>
<description><![CDATA[Mae A&B Plant & Tool Hire, busnes teuluol sydd wedi’i leoli yn Llanwrda, Sir Gaerfyrddin, wedi cyhoeddi y bydd yn codi arian ar gyfer gwasanaeth Gofal Lliniarol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Sioe Frenhinol Cymru eleni. Bydd y cwmni’n cynnal raffl elusennol arbennig yn ei stondin er cof am Alun Rees Thomas – “Alun […]]]></description>
<content:encoded><![CDATA[
Mae A&B Plant & Tool Hire, busnes teuluol sydd wedi’i leoli yn Llanwrda, Sir Gaerfyrddin, wedi cyhoeddi y bydd yn codi arian ar gyfer gwasanaeth Gofal Lliniarol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
Bydd y cwmni’n cynnal raffl elusennol arbennig yn ei stondin er cof am Alun Rees Thomas – “Alun A&B.”
Roedd Alun, a fu farw ym mis Medi 2024 yn dilyn brwydr ddewr yn erbyn canser, yn ffigur annwyl yn y gymuned leol ac yn gefnogwr angerddol o achosion elusennol.
Dywedodd Beryl Thomas, gwraig Alun: “Eleni, roedd ein teulu a thîm A&B eisiau anrhydeddu gwaddol Alun trwy godi arian ar gyfer tîm Gofal Lliniarol Hywel Dda, a gefnogodd Alun a ni yn ystod ei fisoedd olaf.
“Ein nod yw codi £5,000 er cof am Alun. Roedd yn angerddol am roi yn ôl, ac rydym yn falch o barhau â’r traddodiad hwnnw yn ei enw.”
Bydd Raffl Gofal Lliniarol Hywel Dda 2025 yn cael ei dynnu’n fyw ar stondin A&B Plant & Tool Hire ddydd Iau 24 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru. Anogir ymwelwyr i alw heibio i’r stondin i gymryd rhan yn y raffl, mwynhau gemau, a dysgu mwy am wasanaethau’r cwmni ac ymdrechion cymunedol.
Mae’r gwobrau raffl yn cynnwys:
Gwobr Gyntaf: Bwndel Gardd Husqvarna Aspire (peiriant torri gwair awtomatig, Strimiwr a Thorrwr Gwrychoedd)
2il Wobr: Chwipolchwr Kranzle 2160 TST
3ydd Wobr: Pecyn Dillad Amddiffynnol Husqvarna
Bydd yr holl elw yn mynd yn uniongyrchol i Elusennau Iechyd Hywel Dda, gan gefnogi gwasanaethau Gofal Lliniarol ledled y rhanbarth.Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i A&B Plant & Tool Hire am gefnogi’r tîm Gofal Lliniarol mor garedig er cof am Alun.”Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gyfrannu at ymgyrch codi arian A&B Plant & Tool Hire, ewch i: https://www.justgiving.com/page/abplanthire?utm_medium=FR&utm_source=CL&utm_campaign=019
I brynu tocynnau raffl, ffoniwch 01558 650536 neu ewch i stondin A&B Plant & Tool Hire (rhif 439D) yn Sioe Frenhinol Cymru a gynhelir ddydd Llun 21ain – dydd Iau 24ain Gorffennaf 2025.
Am ragor o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
]]></content:encoded>
<wfw:commentRss>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/ab-plant-tool-hire-yn-codi-arian-yn-ysod-y-sioe-frenhinol-er-budd-y-gwasanaeth-gofal-lliniarol-2/feed/</wfw:commentRss>
<slash:comments>0</slash:comments>
<media:content url="https://newyddionlle.cymru/wp-content/uploads/2025/07/A-B-tool-plant-hire.jpg" medium="image"></media:content>
<post-id xmlns="com-wordpress:feed-additions:1">178512</post-id> </item>
<item>
<link>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/cyfle-i-gymunedau-gwledig-cymru-ennill-grant-gwerth-20000-i-sbarduno-newid/</link>
<comments>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/cyfle-i-gymunedau-gwledig-cymru-ennill-grant-gwerth-20000-i-sbarduno-newid/#respond</comments>
<dc:creator><![CDATA[cyfrannwr wefan | Web Contributor]]></dc:creator>
<pubDate>Thu, 10 Jul 2025 11:09:26 +0000</pubDate>
<category><![CDATA[Grants]]></category>
<category><![CDATA[Wales]]></category>
<guid isPermaLink="false">https://newyddionlle.cymru/?p=178509</guid>
<description><![CDATA[Gwahoddir cymunedau gwledig ledled Cymru i wneud cais am grant newydd gwerth £20,000 i ystyried syniadau a allai helpu i greu dyfodol gwell i’w hardal. Bydd y Grant Ymchwil Gweithredu a Arweinir gan y Gymuned yn ariannu hyd at chwe phrosiect ymchwil ac yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth gan fentor academaidd a chyfleoedd i gysylltu […]]]></description>
<content:encoded><![CDATA[
Gwahoddir cymunedau gwledig ledled Cymru i wneud cais am grant newydd gwerth £20,000 i ystyried syniadau a allai helpu i greu dyfodol gwell i’w hardal.
Bydd y Grant Ymchwil Gweithredu a Arweinir gan y Gymuned yn ariannu hyd at chwe phrosiect ymchwil ac yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth gan fentor academaidd a chyfleoedd i gysylltu â chymunedau ac ymchwilwyr eraill.
Darperir y grant gan Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol (LPIP) Cymru Wledig, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth.
Meddai’r Athro Mike Woods o Brifysgol Aberystwyth, Cyfarwyddwr Cymru Wledig LPIP Rural Wales:
“Diben y rhaglen hon yw rhoi’r adnoddau a’r gefnogaeth i gymunedau gwledig i ymchwilio i’r hyn sy’n bwysicaf iddyn nhw – boed gwella lles, mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, neu gryfhau’r diwylliant lleol – ac i droi’r wybodaeth honno’n gamau gweithredu.”
“Mae hwn yn gyfle i gymunedau gymryd yr awenau wrth lunio eu dyfodol eu hunain, ac rydym yn falch o gefnogi prosiectau sy’n adlewyrchu creadigrwydd, gwytnwch ac uchelgais cymunedau yng nghefn gwlad Cymru.”
Mae’r grant yn agored i gymunedau yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Sir Benfro, Powys a Bro Morgannwg.
Rhaid i brosiectau gydweddu ag o leiaf un o bedair thema allweddol Cymru Wledig LPIP Rural Wales, sef: adeiladu economi adfywiol; cefnogi’r pontio i Sero Net; grymuso cymunedau ar gyfer adferiad diwylliannol; neu wella lles yn ei le.
Mae rhagor o wybodaeth am y Grant Ymchwil Gweithredu a arweinir gan y Gymuned, sydd ar agor am geisiadau tan 29 Awst 2025, ar gael ar wefan Gyda’n Gilydd Dros Newid.
Darperir y gronfa gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), ac Innovate UK fel rhan o Cymru Wledig LPIP Rural Wales, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.
]]></content:encoded>
<wfw:commentRss>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/cyfle-i-gymunedau-gwledig-cymru-ennill-grant-gwerth-20000-i-sbarduno-newid/feed/</wfw:commentRss>
<slash:comments>0</slash:comments>
<media:content url="https://newyddionlle.cymru/wp-content/uploads/2025/07/Market-scaled.jpg" medium="image"></media:content>
<post-id xmlns="com-wordpress:feed-additions:1">178509</post-id> </item>
<item>
<link>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/technoleg-a-newidiadau-i-arferion-presennol-yn-cynnig-atebion-gwerthfawr-i-ffermydd-cymru/</link>
<comments>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/technoleg-a-newidiadau-i-arferion-presennol-yn-cynnig-atebion-gwerthfawr-i-ffermydd-cymru/#respond</comments>
<dc:creator><![CDATA[cyfrannwr wefan | Web Contributor]]></dc:creator>
<pubDate>Thu, 10 Jul 2025 09:10:58 +0000</pubDate>
<category><![CDATA[Farming]]></category>
<category><![CDATA[Wales]]></category>
<guid isPermaLink="false">https://newyddionlle.cymru/?p=178503</guid>
<description><![CDATA[Gall technoleg chwyldroi’r ffordd y mae ffermwyr yn gweithio gan wneud pob math o wahanol ffermydd yn fwy effeithlon. Ond yn ôl astudiaeth a gynhaliwyd ar sawl fferm laeth, gall rhai ffermwyr yng Nghymru, o wella’u harferion presennol, wneud yr un arbedion heb orfod buddsoddi mewn technoleg. Mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan raglen […]]]></description>
<content:encoded><![CDATA[
Gall technoleg chwyldroi’r ffordd y mae ffermwyr yn gweithio gan wneud pob math o wahanol ffermydd yn fwy effeithlon. Ond yn ôl astudiaeth a gynhaliwyd ar sawl fferm laeth, gall rhai ffermwyr yng Nghymru, o wella’u harferion presennol, wneud yr un arbedion heb orfod buddsoddi mewn technoleg.
Mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan raglen Cyswllt Ffermio ar ffermydd ledled Cymru yn ddiweddar, tynnwyd hefyd sylw at y ffaith y bydd y gwell perfformiad a gaiff ei addo gan dechnoleg amaethyddol yn wahanol i bob fferm.
O systemau llaeth a bîff i ddefaid a dofednod, mae Cyswllt Ffermio wedi bod yn gweithio gyda ffermydd i dreialu technoleg ac asesu ei gwerth mewn gwahanol systemau.
Mae’r gwaith ymchwil hwn, ynghyd ag astudiaeth gan y corff ymchwil o Iwerddon, Teagasc, wedi dangos sut gall technoleg gynnig atebion gwerthfawr i rai ffermydd, ond gall eraill gynhyrchu’r un canlyniadau heb orfod gwario ar dechnoleg.
Wrth siarad â ffermwyr yn nigwyddiadau Cyswllt Ffermio, dywedodd Conor Hogan, Rheolwr Rhaglen ‘People in Dairy’ gyda Teagasc, fod sefyllfa pob fferm yn wahanol, ond gall gwell effeithlonrwydd yn aml ddod o wneud llawer o fân welliannau, yn hytrach nag un newid mawr.
“Gall y pethau lleiaf wneud gwahaniaeth mawr, fel strwythur y diwrnod neu sut caiff parlwr godro ei staffio, gyda’r rhain i gyd yn arbed amser,” meddai.
“Bydd gan dechnoleg ran fawr i’w chwarae ym myd amaeth yn y dyfodol ac, i lawer o ffermwyr, bydd yn helpu i leihau’r llwyth gwaith a’i hwyluso, ond fe ddylen nhw yn gyntaf ystyried pa fân addasiadau y gallen nhw eu gwneud ar y fferm i’w gwneud yn fwy effeithlon.”
1. Ailstrwythuro’r diwrnod gwaith
Roedd astudiaeth Teagasc yn cynnwys 90 o ffermydd llaeth ac fe ddangosodd wahaniaethau mawr yng nghymarebau’r nifer yr oriau a weithir am bob buwch – ar un pen i’r raddfa roedd fferm, ar gyfartaledd, yn gweithio 23.8 awr am bob buwch y flwyddyn, ac ar y pen arall roedd un yn gweithio 38.9 awr.
Mae’r bwlch hwnnw’n cyfateb i 2,000 awr y flwyddyn, sydd, wrth ystyried cyfradd fesul awr o £15 i weithiwr, yn werth £34,000.
“Roedd y rhain yn ffermydd tebyg o ran maint, math o dir a strwythur; yr unig wahaniaeth oedd eu mewnbwn o ran amser, ac mae hyn yn dangos bod y mewnbwn hwn yn effeithio’n fawr ar yr elw net,” meddai Conor.
Roedd y ffermwyr oedd yn gweithio’r lleiaf o oriau yn trefnu eu diwrnod gyda dilyniant penodol o dasgau, ond i’r lleill roedd yn y diwrnod yn fwy tameidiog ac anhrefnus, gyda hyn yn arwain at ddiwrnod gwaith hirach.
Yn ôl Conor, mae hyn yn dangos y buddion go iawn y gellid eu hennill o ran mwy o elw i’r fferm a gwell ansawdd bywyd i’r ffermwr a’i staff, pe bai tasgau’n cael eu gwneud mewn ffordd strwythuredig.
2. Symleiddio’r broses odro
Gall godro fod y dasg sy’n gofyn am y nifer uchaf o oriau’r dydd ar fferm laeth, felly gall cyflwyno newidiadau yma wneud gwahaniaeth mawr.
Dywed Conor y dylai’r gofyniad llafur mewn system lloia bloc o ganol y cyfnod lloia, gyda pharlwr 24–26 uned a chyda’r system gywir, fod yn gyraeddadwy gydag un gweithredwr, gan arwain at gryn arbedion o ran cost.
Gall technoleg tynnu clystyrau’n awtomatig (ACR) hwyluso hyn, yn ogystal â llif da o fuchod yn dod i mewn i’r parlwr fel nad oes angen i’r gweithredwr adael yn ystod godro; gellir cyflawni hyn trwy ddefnyddio gatiau allanfa awtomatig a chyfleuster i’w gweithredu o unrhyw le yn y parlwr.
Dyma lle gall technoleg rad fod o fudd mawr – trwy ddefnyddio ‘batt latch’, er enghraifft, i ganiatáu i wartheg ddod i mewn yn gynt ar eu cyflymder eu hunain i gael eu godro.
3. Bwydo a magu lloi
Magu lloi yw lle gall technoleg gael effaith gadarnhaol fawr iawn ar lafur – dywed Conor y gall ffermwyr ddisgwyl cynnydd o 20% mewn effeithlonrwydd gyda phorthwyr awtomatig.
“Maen nhw’n gadarnhaol iawn o safbwynt llafur ond mae angen ystyried effaith y system; os oes gan fferm system fagu wirioneddol effeithlon, efallai na fydd yr arbedion, o reidrwydd, yn cael eu gweld.
“Mae angen pwyso a mesur hyn fesul fferm.”
Bydd corlannu lloi mewn grwpiau yn hytrach nag ar wahân yn symleiddio’r system, gyda llai o angen am lanhau â llaw, ychwanegodd Conor.
4. Isadeiledd pori da
O lwybrau a chyfleusterau dŵr yfed i ffensys parhaol, bydd isadeiledd sy’n gysylltiedig â phori yn symleiddio’r system ac yn lleihau unrhyw ofynion o ran llafur.
“Dylai pob fferm bori ganolbwyntio ar ei hisadeiledd yn gyntaf gan fod hyn yn cynnig budd cyflym,” cynghorodd Conor.
5. Ystyriwch ble gall technoleg gynnig yr elw gorau ar fuddsoddiad (ROI)
Unwaith y bydd fferm wedi rhoi newidiadau ar waith i sicrhau gwell effeithlonrwydd, dylai wedyn ystyried sut gall technoleg sicrhau’r elw gorau ar gost.
Mae llawer o ddata cadarnhaol ar gael ar wahanol arloesedd, meddai Conor. “Fe allan nhw gynnal neu wneud y tasgau cystal ag unrhyw ffermwr.”
Ond ychwanegodd: “Mae cyfrifiadau’r ROI ar arbedion llafur i lawer ohonyn nhw’n llai cadarnhaol ar hyn o bryd.’’
Mae angen ystyried eu heffaith ar gynhyrchiant yn yr hafaliad cost a budd hefyd. “Fe allan nhw fod yn ffordd addas o gynnal perfformiad, ond yn gyffredinol, dydyn ni ddim yn gweld unrhyw gynnydd mawr mewn cynhyrchiant,” meddai Conor.
“O ran technoleg synhwyro gwres, er enghraifft, mae’r dechnoleg cystal â ffermwr da, ond os yw’r ffermwr yn lloia dros chwe wythnos, neu os oes ganddo gyfraddau cenhedlu da iawn, dyw technoleg, fel coleri neu gamfesuryddion (pedometers), ddim yn mynd i wella ar hynny, mae’n debyg.”
Gall cyfrifo buddion ychwanegol y rhain, ar gyfer iechyd y gwartheg er enghraifft, fod yn anodd, ychwanegodd.
“Ond os ydych chi’n atal achos neu ddau o fastitis, yna fe ddaw elw ar fuddsoddiad gymaint â hynny’n gynt ac yn gadarnhaol.”
“Os yw fferm yn gweld canlyniadau cadarnhaol o ran ffrwythlondeb neu’n dod o hyd i fwy o achosion o gloffni neu fastitis, mae ganddi botensial i wneud elw ar fuddsoddiad yn gyflym iawn, a gall hynny ddigwydd yn gyflymach byth os oes cymorth grant ar gael.”
Pwysleisiodd Conor bwysigrwydd sicrhau bod technoleg yn addas ar gyfer y system ffermio, cynllun a maint y fferm, a’i ffordd o reoli.
“Bydd technoleg yn rhoi mwy o fynediad i chi at ddata, ond a yw hynny’n rhywbeth y byddwch chi’n ei ddefnyddio?” gofynnodd i’r ffermwyr.
Ystyriwch pa mor hawdd i’w defnyddio yw’r dechnoleg ac unrhyw hyfforddiant, ac a yw’r cyflenwr yn cynnig cymorth gyda’r rhain.
Edrychwch ar strwythur y costau, p’un a oes yna gostau cyfalaf neu fodel tanysgrifio.
Ystyriwch y gofynion o ran cynnal a chadw hefyd.
Ystyriwch a allwch integreiddio’r dechnoleg ag offer sydd eisoes ar y fferm. “Mae defnyddio coleri synhwyro gwres ar y cyd â giât ddrafftio yn enghraifft berffaith,” meddai Conor.
Ystyriwch fuddion eraill hefyd, cynghorodd. “Un peth da gyda thechnoleg synhwyro gwres yw’r potensial am gyfnodau hirach ar gyfer ffrwythloni artiffisial, a’r posibilrwydd o dynnu teirw allan o’r system. Meddyliwch am yr effaith y gall hynny ei chael ar eneteg.”
“Gall technoleg synhwyro gwres fod o fudd hefyd os ydych chi’n ystyried defnyddio semen yn ôl ei ryw, neu eisiau ychwanegu mwy o gywirdeb yn y cyfnod ffrwythloni artiffisial.”
Does dim modd anwybyddu manteision amgylcheddol rhai technolegau, chwaith.
Dywed Dr Non Williams, Arbenigwr Carbon Cyswllt Ffermio, fod gan dechnoleg a all helpu ffermydd i ddod yn fwy effeithlon – drwy wella iechyd anifeiliaid a hybu cynhyrchiant – y potensial i leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr a ryddheir i’r atmosffer am bob litr o laeth neu gilogram o gig a gynhyrchir.
Mae technegau amaethyddiaeth fanwl, fel defnyddio GPS a synwyryddion, yn arwain at y defnydd gorau posibl o adnoddau a gostyngiad mewn gwastraff ar y fferm. Gall hyn arwain at ostyngiadau mewn allyriadau os cynyddir cynhyrchiant o lai o fewnbynnau.
Mae technolegau newydd, fel peiriannau wedi’u pweru gan fiomethan, yn cael eu treialu ar ffermydd hefyd. Ac yn ôl Non, mae modd eu rhedeg ar nwy naturiol y gellir ei gasglu a’i ddal mewn storfeydd slyri a gweithfeydd treulio anaerobig (AD), gan gynnig opsiwn arall yn lle disel sy’n well i’r amgylchedd.
Efallai y bydd gan dechnoleg synhwyro gwres, fel coleri, fanteision eilaidd hefyd, meddai Non.
“Os gall defnyddio coleri arwain at well effeithlonrwydd o ran atgenhedlu, fel adnabod buchod sy’n gofyn tarw yn gywir, ac felly sicrhau gwell ffrwythlondeb ar y fferm, gall hyn arwain at ôl troed carbon llai am bob uned o laeth a gynhyrchir.”
PANEL
Drwy sefydlu system laeth gydag effeithlonrwydd o ran llafur yn rhan ohoni, mae Rhodri Jones yn credu na fydd coleri synhwyro gwres, o bosibl, yn cynnig y buddion yr oedd yn meddwl y bydden nhw’n eu cynnig i ddechrau, oherwydd bod ei system yn syml ac yn isel o ran cost.
Trodd Rhodri a’i wraig Siwan y fferm bîff a defaid a oedd yn eiddo i deulu Siwan, yn fferm laeth, gan odro 197 o wartheg ar 65ha.
Sefydlwyd system lloia yn y gwanwyn a buddsoddwyd mewn isadeiledd pori da, gan gynnwys llwybrau a dŵr.
Ar fferm Penparc yn Llanerfyl, caiff tua 13t o ddeunydd sych o laswellt fesul hectar y flwyddyn ei dyfu ar y platfform pori. Mae’r teulu bellach yn y trydydd tymor o odro, gyda’r fuches groesfrid ar gyfartaledd yn cynhyrchu 5,600 litr am bob buwch y flwyddyn, a hynny o 1.1 tunnell o ddwysfwyd.
Dywedodd Rhodri, a gynhaliodd un o ddigwyddiadau Cyswllt Ffermio, y bu’n ystyried defnyddio coleri i’r buchod i wella effeithlonrwydd ymhellach, ond fe resymodd na fydden nhw’n gwella ar berfformiad da’r fferm ar hyn o bryd o ran ffrwythlondeb. Wedi dweud hynny, mae’n awyddus i ymchwilio i’r buddion, fel y gyfradd uwch o elw ac arbedion o ran llafur y gallai technolegau eraill eu cynnig, fel porthwyr lloi awtomatig, er enghraifft.
“Mae’n bwysig bod yn agored i wahanol dechnolegau a sut gallan nhw ein helpu i symleiddio’r busnes a gwella ein perfformiad,” meddai.
]]></content:encoded>
<wfw:commentRss>https://newyddionlle.cymru/2025/07/10/technoleg-a-newidiadau-i-arferion-presennol-yn-cynnig-atebion-gwerthfawr-i-ffermydd-cymru/feed/</wfw:commentRss>
<slash:comments>0</slash:comments>
<media:content url="https://newyddionlle.cymru/wp-content/uploads/2025/07/1bcea77ef74f4b77bb670aca5ed4ac48.jpg" medium="image"></media:content>
<post-id xmlns="com-wordpress:feed-additions:1">178503</post-id> </item>
<item>
<link>https://newyddionlle.cymru/2025/07/09/mentera-yn-lansio-sbarc-ceredigion-grymuso-entrepreneuriaid-am-geredigion-ffyniannus/</link>
<comments>https://newyddionlle.cymru/2025/07/09/mentera-yn-lansio-sbarc-ceredigion-grymuso-entrepreneuriaid-am-geredigion-ffyniannus/#respond</comments>
<dc:creator><![CDATA[cyfrannwr wefan | Web Contributor]]></dc:creator>
<pubDate>Wed, 09 Jul 2025 09:24:23 +0000</pubDate>
<category><![CDATA[Business]]></category>
<category><![CDATA[Ceredigion News]]></category>
<guid isPermaLink="false">https://newyddionlle.cymru/?p=178500</guid>
<description><![CDATA[Yn dilyn llwyddiant mawr ei raglen gyntaf, mae Mentera, cwmni nid-er-elw sy’n ymroddedig i gefnogi busnesau Cymru, yn falch iawn o gyhoeddi lansiad SBARC Ceredigion. Mae’r fenter entrepreneuriaeth uwch hon, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (Llywodraeth y DU) yn cael ei gweinyddu gan dîm Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Ceredigion. Mae […]]]></description>
<content:encoded><![CDATA[
Yn dilyn llwyddiant mawr ei raglen gyntaf, mae Mentera, cwmni nid-er-elw sy’n ymroddedig i gefnogi busnesau Cymru, yn falch iawn o gyhoeddi lansiad SBARC Ceredigion. Mae’r fenter entrepreneuriaeth uwch hon, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (Llywodraeth y DU) yn cael ei gweinyddu gan dîm Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Ceredigion. Mae rhaglen SBARC Ceredigion wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer y sir, a gall unigolion a sefydliadau bellach ymgeisio am un o dair lefel gwahanol o gymorth.
Profodd prosiect cyntaf SBARC Ceredigion, a lansiwyd ym mis Medi 2023, i fod yn effeithiol iawn. Rhoddodd ddealltwriaeth a phrofiadau dysgu gwerthfawr i 24 o entrepreneuriaid uchelgeisiol, a hynny gan ffigurau blaenllaw yn lleol ac yn rhyngwladol. Manteisiodd y rhai a gymerodd ran yn y prosiect ar benwythnosau preswyl, taith astudio, a’r cyfle i ennill tystysgrif uwchraddedig mewn Arwain Newid (Lefel 7) o Brifysgol Aberystwyth. Mae rhaglen SBARC Ceredigion yn adeiladu ar y sylfaen hon, gyda’r nod o ehangu ei chyrhaeddiad a’i heffaith hyd yn oed ymhellach.
Mae SBARC Ceredigion yn cyflwyno dull haenog cynhwysfawr o feithrin talent entrepreneuraidd ym mhob cam:
Sbarduno: Mae’r lefel hon yn canolbwyntio ar ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid. Bydd Mentera yn ymweld ag ysgolion a sefydliadau ieuenctid ledled Ceredigion i gyflwyno sesiynau unigryw ar entrepreneuriaeth, gan ennyn diddordeb a photensial.
Tyfu: Bydd carfan Tyfu, sydd ar gyfer unigolion sydd wrthi’n datblygu syniad busnes neu’r rhai sy’n awyddus i ddechrau eu menter eu hunain, yn cymryd rhan mewn tri digwyddiad preswyl dwys. Mae disgwyl i ddau benwythnos preswyl gorfodol gael eu cynnal yng Ngheredigion ar 26–28 Medi a 28–30 Tachwedd. Bydd yna hefyd daith breswyl a fydd yn mynd ag unigolion i wlad sy’n enwog am ei hecosystem entrepreneuraidd fywiog.
Ffynnu: Ar gyfer perchnogion busnes sefydledig sy’n ceisio ehangu a thyfu, mae Ffynnu yn cynnig rhaglen gymorth strwythuredig sy’n cyfuno cefnogaeth bersonol (1:1), cyngor arbenigol pwrpasol, hyfforddiant busnes, a sesiynau grŵp. Nod y rhaglen ddwys hon, a fydd yn rhedeg o fis Medi i fis Rhagfyr 2025, yw gyrru twf go iawn, wedi’i deilwra ar gyfer pob busnes, boed yn ariannol, gweithredol, strategol neu’n seiliedig ar effaith. Ymhlith y prif ymrwymiadau mae diwrnod rhagarweiniol gorfodol yng Ngheredigion ar 9 Medi 2025; cyfres o sesiynau 1:1 ar-lein gydag arbenigwyr busnes; sesiwn hanner diwrnod/gyda’r nos ym mis Hydref; ymweliad maes ym mis Tachwedd â busnesau sydd â phrofiad o dwf yng Ngheredigion a’r siroedd cyfagos; a digwyddiad cloi ym mis Rhagfyr.
Bydd Gweithdy Sbarduno Busnes agored hefyd yn cael ei chynnal rhwng 12:30 a 14:00 ddydd Mercher, 16 Gorffennaf, yn ArloesiAber, lle bydd angen cofrestru am le. Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb i gysylltu â sbarc@mentera.cymru i sicrhau eich lle.
Gallwch bellach ymgeisio am bob un o’r tair lefel o SBARC Ceredigion. Anogir ysgolion a sefydliadau ieuenctid sydd â diddordeb mewn cynnal sesiynau Sbarduno i gysylltu â ni ar sbarc@mentera.cymru. Gwahoddir darpar entrepreneuriaid a pherchnogion busnes sefydledig sy’n byw neu’n gweithio yng Ngheredigion i wneud cais am raglenni Tyfu a Ffynnu cyn 9am, 4 Awst 2025.
Dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau Mentera, wrth lansio’r rhaglen:
“Ym Mentera, credwn yn gryf mai ar fusnesau ffyniannus yr adeiledir Cymru ffyniannus. Mae SBARC Ceredigion yn ymgorffori ein 35 mlynedd o brofiad o gynnig cyngor a chymorth o’r radd flaenaf, gan ddefnyddio ein harbenigedd dwfn a’n cysylltiadau cryf ag arweinwyr diwydiant. Gyda Sbarduno, Tyfu, a Ffynnu, rydyn ni’n creu llwybr cadarn i rymuso unigolion ar bob cam o’u taith fel entrepreneuriaid, gan sicrhau bod busnesau Ceredigion yn gallu cystadlu’n hyderus ar lwyfan y byd.”
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod o Gabinet Cyngor Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio:
“Mae lansio SBARC Ceredigion yn dynodi cam beiddgar ymlaen i ddatgloi potensial entrepreneuraidd ein rhanbarth – drwy gynnig cymorth teilwredig ar draws pob cam o’r broses o ddatblygu busnes, o ennyn diddordeb cynnar mewn ysgolion i gyflymu twf i fentrau sefydledig. Nod y fenter hon yw gyrru cynnydd economaidd ystyrlon ac mae hefyd yn fuddsoddiad yn nyfodol Ceredigion, gan rymuso unigolion dawnus lleol i arloesi, arwain a ffynnu.”
Fel un a gymerodd ran yn SBARC, rhannodd Dr Helen Whiteland ei phrofiad:
“Roedd y rhaglen SBARC yn brofiad gwirioneddol drawsnewidiol. Bu’r sesiynau mentora, yr wybodaeth, a’r cysylltiadau y gwnes i eu meithrin yn amhrisiadwy wrth fy helpu i fireinio fy syniad busnes ac ennill yr hyder i fynd amdani. Dwi’n falch iawn o weld SBARC Ceredigion yn dychwelyd gyda chymorth hyd yn oed yn fwy teilwredig, a dwi’n annog unrhyw un sydd â breuddwyd entrepreneuraidd i fanteisio ar y cyfle rhagorol hwn.”
Am ragor o wybodaeth am SBARC Ceredigion, ewch i: https://mentera.cymru/cy/sbarc-ceredigion/ neu e-bostiwch: sbarc@mentera.cymru
]]></content:encoded>
<wfw:commentRss>https://newyddionlle.cymru/2025/07/09/mentera-yn-lansio-sbarc-ceredigion-grymuso-entrepreneuriaid-am-geredigion-ffyniannus/feed/</wfw:commentRss>
<slash:comments>0</slash:comments>
<media:content url="https://newyddionlle.cymru/wp-content/uploads/2025/07/761c8931e67d464c81b8c1f4e82d4d53.jpeg" medium="image"></media:content>
<post-id xmlns="com-wordpress:feed-additions:1">178500</post-id> </item>
<item>
<link>https://newyddionlle.cymru/2025/07/09/arddangosfa-newydd-or-enw-morwelion-yn-agor-yn-oriel-y-parc/</link>
<comments>https://newyddionlle.cymru/2025/07/09/arddangosfa-newydd-or-enw-morwelion-yn-agor-yn-oriel-y-parc/#respond</comments>
<dc:creator><![CDATA[cyfrannwr wefan | Web Contributor]]></dc:creator>
<pubDate>Wed, 09 Jul 2025 09:22:02 +0000</pubDate>
<category><![CDATA[Pembrokeshire News]]></category>
<guid isPermaLink="false">https://newyddionlle.cymru/?p=178497</guid>
<description><![CDATA[Bydd arddangosfa drawiadol newydd, Môrwelion / The Sea Horizon, yn agor yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf. Bydd yr arddangosfa yn dangos gwaith Garry Fabian Miller, yr artist enwog o Brydain. Dros y pedwar degawd diwethaf mae Fabian Miller wedi ceisio defnyddio celf fel cyfrwng i gyfleu ein diddordeb […]]]></description>
<content:encoded><![CDATA[
Bydd arddangosfa drawiadol newydd, Môrwelion / The Sea Horizon, yn agor yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf. Bydd yr arddangosfa yn dangos gwaith Garry Fabian Miller, yr artist enwog o Brydain.
Dros y pedwar degawd diwethaf mae Fabian Miller wedi ceisio defnyddio celf fel cyfrwng i gyfleu ein diddordeb yn y gorwel – y pwynt hwnnw ble mae’r tir, y môr a’n dychymyg yn cwrdd.
Mae’r arddangosfa hon yn cael ei chynnal mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, ac yn cynnwys crynodeb lawn o siwrnai artistig Miller. Mae’r casgliad yn cynnwys ffotograffiaeth o gasgliad Môrwelion 1970 a dynnwyd ar do ei gartref yn Clevedon, yn ogystal â’i waith di-gamera diweddar sydd wedi ei greu mewn ystafell dywyll gyda golau, gwydr, dŵr a phlanhigion er mwyn creu lluniau haniaethol syfrdanol sydd wedi eu hysbrydoli gan y môr a’r awyr.
Bydd yr arddangosfa yn cael ei rhannu rhwng dwy ystafell, ac mae’n gwahodd ymwelwyr i feddwl am themâu cyfnewidiol y gorwel, ac yn eu hannog i ddefnyddio eu dychymyg i brofi celf ddiriaethol ar thema’r arfordir yn ogystal â’r darnau haniaethol.
Dywedodd Garry Fabian Miller: “Rwy’n ffodus iawn bod fy ngwaith cynharaf fel artist, sef Môrwelion, sy’n dyddio’n ôl i 1976/7 pan oeddwn i’n 19 oed, wedi cael cartref addas yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yn 2023, bron i hanner canrif yn ddiweddarach. Rwy’n falch ei fod yn cael ei ddangos ar y cyd â’m myfyrdodau Ystafell Dywyll ar thema’r gorwel.”
Mae’r arddangosfa yn cael ei chynnal yng ngorllewin pell Cymru, ac fel fy nghartref yn Dartmoor, mae pobl yn meddwl amdanynt fel llefydd pell ac anghysbell. Ond, rwy’n creu mai dyma ganolbwynt y byd, ac mae modd canfod ystyr a phwrpas yma. Dylai celf fod ar gael i bawb ei brofi. Mae Oriel y Parc yn gwneud hyn yn bosibl ac rwy’n falch o gael arddangos fy ngwaith mewn lle mor unigryw.”
Bydd Oriel y Parc yn cynnal digwyddiad arbennig am 11am ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf i nodi agoriad swyddogol yr arddangosfa. Am hanner dydd bydd sgwrs rhwng Garry Fabian Miller a Dr Bronwen Colquhoun, Curadur Ffotograffiaeth yn Amgueddfa Cymru. Byddan nhw’n trafod y broses greadigol, grym tirwedd, a phwysigrwydd oesol y gorwel mewn celf ac mewn bywyd.
Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc: “Mae gwaith Garry Fabian Miller yn cyfleu ein perthynas gyda’r arfordir – a’r ffordd y mae’r arfordir yn gallu ein hysbrydoli, ein llonyddu a’n cysylltu ni â rhywbeth mwy. Rydym ni’n falch iawn fod Môrwelion / The Sea Horizon wedi cyrraedd Oriel y Parc, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at rannu lluniau syfrdanol y casgliad gyda’n hymwelwyr.”
Bydd yr arddangosfa ar agor tan Wanwyn 2026. Mynediad am ddim.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.orielyparc.co.uk.
Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael ar www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.
]]></content:encoded>
<wfw:commentRss>https://newyddionlle.cymru/2025/07/09/arddangosfa-newydd-or-enw-morwelion-yn-agor-yn-oriel-y-parc/feed/</wfw:commentRss>
<slash:comments>0</slash:comments>
<media:content url="https://newyddionlle.cymru/wp-content/uploads/2025/07/SMALL4N1A1397-©-Howard-Sooley.jpg" medium="image"></media:content>
<post-id xmlns="com-wordpress:feed-additions:1">178497</post-id> </item>
<item>
<link>https://newyddionlle.cymru/2025/07/08/ab-plant-tool-hire-yn-codi-arian-yn-ysod-y-sioe-frenhinol-er-budd-y-gwasanaeth-gofal-lliniarol/</link>
<comments>https://newyddionlle.cymru/2025/07/08/ab-plant-tool-hire-yn-codi-arian-yn-ysod-y-sioe-frenhinol-er-budd-y-gwasanaeth-gofal-lliniarol/#respond</comments>
<dc:creator><![CDATA[Emyr Evans]]></dc:creator>
<pubDate>Tue, 08 Jul 2025 13:45:00 +0000</pubDate>
<category><![CDATA[Carmarthenshire News]]></category>
<category><![CDATA[Hywel Dda Health Charities]]></category>
<category><![CDATA[Newyddion Lle]]></category>
<guid isPermaLink="false">https://newyddionlle.cymru/2025/07/08/ab-plant-tool-hire-yn-codi-arian-yn-ysod-y-sioe-frenhinol-er-budd-y-gwasanaeth-gofal-lliniarol/</guid>
<description><![CDATA[Mae A&B Plant & Tool Hire, busnes teuluol sydd wedi’i leoli yn Llanwrda, Sir Gaerfyrddin, wedi cyhoeddi y bydd yn codi arian ar gyfer gwasanaeth Gofal Lliniarol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Sioe Frenhinol Cymru eleni. Bydd y cwmni’n cynnal raffl elusennol arbennig yn ei stondin er cof am Alun Rees Thomas – “Alun […]]]></description>
<content:encoded><![CDATA[
Mae A&B Plant & Tool Hire, busnes teuluol sydd wedi’i leoli yn Llanwrda, Sir Gaerfyrddin, wedi cyhoeddi y bydd yn codi arian ar gyfer gwasanaeth Gofal Lliniarol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
Bydd y cwmni’n cynnal raffl elusennol arbennig yn ei stondin er cof am Alun Rees Thomas – “Alun A&B.”
Roedd Alun, a fu farw ym mis Medi 2024 yn dilyn brwydr ddewr yn erbyn canser, yn ffigur annwyl yn y gymuned leol ac yn gefnogwr angerddol o achosion elusennol.
Dywedodd Beryl Thomas, gwraig Alun: “Eleni, roedd ein teulu a thîm A&B eisiau anrhydeddu gwaddol Alun trwy godi arian ar gyfer tîm Gofal Lliniarol Hywel Dda, a gefnogodd Alun a ni yn ystod ei fisoedd olaf.
“Ein nod yw codi £5,000 er cof am Alun. Roedd yn angerddol am roi yn ôl, ac rydym yn falch o barhau â’r traddodiad hwnnw yn ei enw.”
Bydd Raffl Gofal Lliniarol Hywel Dda 2025 yn cael ei dynnu’n fyw ar stondin A&B Plant & Tool Hire ddydd Iau 24 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru. Anogir ymwelwyr i alw heibio i’r stondin i gymryd rhan yn y raffl, mwynhau gemau, a dysgu mwy am wasanaethau’r cwmni ac ymdrechion cymunedol.
Mae’r gwobrau raffl yn cynnwys:
Gwobr Gyntaf: Bwndel Gardd Husqvarna Aspire (peiriant torri gwair awtomatig, Strimiwr a Thorrwr Gwrychoedd)
2il Wobr: Chwipolchwr Kranzle 2160 TST
3ydd Wobr: Pecyn Dillad Amddiffynnol Husqvarna
Bydd yr holl elw yn mynd yn uniongyrchol i Elusennau Iechyd Hywel Dda, gan gefnogi gwasanaethau Gofal Lliniarol ledled y rhanbarth.
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian yn Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i A&B Plant & Tool Hire am gefnogi’r tîm Gofal Lliniarol mor garedig er cof am Alun.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gyfrannu at ymgyrch codi arian A&B Plant & Tool Hire, ewch i: https://www.justgiving.com/page/abplanthire?utm_medium=FR&utm_source=CL&utm_campaign=019
I brynu tocynnau raffl, ffoniwch 01558 650536 neu ewch i stondin A&B Plant & Tool Hire (rhif 439D) yn Sioe Frenhinol Cymru a gynhelir ddydd Llun 21ain – dydd Iau 24ain Gorffennaf 2025.
Am ragor o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch iwww.hywelddahealthcharities.org.uk
]]></content:encoded>
<wfw:commentRss>https://newyddionlle.cymru/2025/07/08/ab-plant-tool-hire-yn-codi-arian-yn-ysod-y-sioe-frenhinol-er-budd-y-gwasanaeth-gofal-lliniarol/feed/</wfw:commentRss>
<slash:comments>0</slash:comments>
<media:content url="https://newyddionlle.cymru/wp-content/uploads/2022/08/cropped-107800056_736435130450402_6977082214890466312_n-removebg-preview.png" medium="image"></media:content>
<post-id xmlns="com-wordpress:feed-additions:1">178494</post-id> </item>
<item>
<link>https://newyddionlle.cymru/2025/07/08/rhoddion-elusennol-yn-ariannu-uwchraddio-ystafell-staff-ar-gyfer-fferyllfa-glangwili/</link>
<comments>https://newyddionlle.cymru/2025/07/08/rhoddion-elusennol-yn-ariannu-uwchraddio-ystafell-staff-ar-gyfer-fferyllfa-glangwili/#respond</comments>
<dc:creator><![CDATA[Emyr Evans]]></dc:creator>
<pubDate>Tue, 08 Jul 2025 12:45:00 +0000</pubDate>
<category><![CDATA[Carmarthenshire News]]></category>
<category><![CDATA[Hywel Dda Health Charities]]></category>
<category><![CDATA[Newyddion Lle]]></category>
<guid isPermaLink="false">https://newyddionlle.cymru/2025/07/08/rhoddion-elusennol-yn-ariannu-uwchraddio-ystafell-staff-ar-gyfer-fferyllfa-glangwili/</guid>
<description><![CDATA[Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi darparu £26,984 i ariannu adnewyddu ystafell staff fferyllfa Ysbyty Glangwili. Oherwydd ei faint a’r nifer cynyddol o bobl yn ei defnyddio, roedd ystafell staff y fferyllfa wedi dod yn annigonol fel lle gorffwys. Mae’r ystafell staff […]]]></description>
<content:encoded><![CDATA[
Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – wedi darparu £26,984 i ariannu adnewyddu ystafell staff fferyllfa Ysbyty Glangwili.
Oherwydd ei faint a’r nifer cynyddol o bobl yn ei defnyddio, roedd ystafell staff y fferyllfa wedi dod yn annigonol fel lle gorffwys.
Mae’r ystafell staff wedi’i huwchraddio, sy’n cynnwys cyfleusterau cegin a dodrefn newydd eu gosod, yn sicrhau y gall holl staff y fferyllfa fwynhau lle ymlaciol a chymryd seibiant mewn cysur.
Esboniodd John Harris, Pennaeth Fferyllfa Glangwili: “Roedd ystafell orffwys y staff wedi bod yn cael ei defnyddio ers dros 30 mlynedd ac yn wreiddiol roedd yn darparu ar gyfer 20 aelod o staff; mae dros 70 bellach.
“Mae’r ystafell wedi’i hadnewyddu’n darparu lle llawer mwy cyfforddus a hyblyg. Nawr gall staff y fferyllfa fwynhau ardal o ansawdd uchel, ymlaciol lle gallant gymryd peth amser i ffwrdd.
“Gobeithiwn y bydd gan yr ystafell staff wedi’i hadnewyddu effaith gadarnhaol iawn ar ein staff, gan eu helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cleifion.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae creu lle ymlaciol i staff mor bwysig: mae’n rhoi seibiant o ofynion y dydd ac yn cefnogi lles staff yn fawr.
“Mae haelioni ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhai sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
Am fwy o fanylion am yr elusen a sut allwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
]]></content:encoded>
<wfw:commentRss>https://newyddionlle.cymru/2025/07/08/rhoddion-elusennol-yn-ariannu-uwchraddio-ystafell-staff-ar-gyfer-fferyllfa-glangwili/feed/</wfw:commentRss>
<slash:comments>0</slash:comments>
<media:content url="https://newyddionlle.cymru/wp-content/uploads/2022/08/cropped-107800056_736435130450402_6977082214890466312_n-removebg-preview.png" medium="image"></media:content>
<post-id xmlns="com-wordpress:feed-additions:1">178493</post-id> </item>
</channel>
</rss>